Mae diweithdra yng Nghymru ar ei lefel isaf erioed, ac yn is na’r gyfradd dros wledydd Prydain oll, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos mai 3.8% o bobol Cymru oedd yn ddi-waith rhwng mai a Gorffennaf eleni – cwymp 0.6% o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Ac yn ystod yr un cyfnod mi roedd 4% o bobol dros y Deyrnas Unedig yn ddi-waith – swm uwch nag yng Nghymru, ond cwymp o 0.2% o gymharu â’r misoedd blaenorol.

Hefyd, roedd mwy o bobol mewn gwaith dros y Deyrnas Unedig gyfan (75.5%) o gymharu â Chymru (74.8%), ond yn wahanol i’r undeb oll mi gynyddodd y ganran yng Nghymru.

“Llwyddiant”

“Yn sgil y llwyddiant yma, parhawn i wneud popeth y gallwn i wella ymhellach,” meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

“A wnawn ni geisio sicrhau bod ein heconomi yn y cyflwr gorau posib er mwyn delio â’r sialensiau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.”