Wrth i ffrae ddwysáu yng Nghonwy tros hysbyseb swydd cyfarwyddwr addysg, mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r Cyngor o “gelu gwybodaeth a ddylsai fod yn gyhoeddus”.

Daeth Cyngor Conwy dan y lach ym mis Awst wedi iddo ddod i’r amlwg bod medru’r Gymraeg yn ‘ddymunol’ ar gyfer swydd Pennaeth Addysg Dros Dro.

Dyma oedd yr ail dro i’r awdurdod lleol wahodd ceisiadau am y swydd, ac er bod y Gymraeg yn ‘hanfodol’ yn eu hysbyseb cyntaf, fe benderfynodd y Cyngor newid gofynion y swydd.

Yn ôl y Cyngor, doedd dim un ymgeisydd wedi “bodloni’r meini prawf Cymraeg” yn ystod y rownd gyntaf o geisiadau.

“Diffyg tryloywder”

Mae grŵp Cylch yr Iaith wedi codi pryderon am “ddiffyg tryloywder” gan Gyngor Conwy ynghylch y modd y daethpwyd i’r penderfyniad i newid geiriad yr hysbyseb.  

Dyw cofnodion y cyfarfod lle ddaeth y Cyngor i’w penderfyniad heb gael eu cyhoeddi, meddai’r ymgyrchwyr sydd bellach yn bwriadu anfon cais Rhyddid Gwybodaeth i’w datgelu.

Mae Cyngor Conwy wedi dewis peidio ä datgelu’r cofnodion gan eu bod yn ymdrin â gwybodaeth bersonol a phreifat am unigolion, yn ôl Cylch yr Iaith.

“Ddim yn ddilys”

“Dydi’r rheswm y mae’r cyngor yn ei roi ddim yn ddilys oherwydd doedd gan yr Uwch-Bwyllgor Cyflogaeth ddim awdurdod i drafod unigolion,” meddai Geraint Jones ar ran Cylch yr Iaith.

“Yr hyn oedd yn cael ei drafod oedd y swydd-ddisgrifiad a gwerth y Gymraeg fel cymhwyster.

“Mae’n ymddangos bod y cyngor eisiau celu’r drafodaeth ar y Gymraeg oddi wrth y cyhoedd, ac mae hyn yn gwbwl annerbyniol.”

Y swydd

Mae’r swydd yn cynnig cyflog rhwng £69,078 a 76,098, a Medi 7 oedd dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Fedi 28.

Bydd dirprwyaeth o Gylch yr Iaith yn cyfarfod â chynghorwyr Conwy ddydd Gwener yr wythnos hon (Medi 14).