Mae’r cwmni ceir moethus, Aston Martin, wedi cyhoedd y byddan nhw’n dechrau cynhyrchu ceir trydan yn eu canolfan yn Sain Tathan.

Bydd Bro Morgannwg hefyd yn dod yn gartref i’r brand Lagonda, sydd wedi bod yn berchen i Aston Martin ers 1947.

Bydd y Rapide E cynta’ yn cael ei adeiladu yng Nghymru pan fydd y gwaith cynhyrchu yn dechrau yn Sain Tathan y flwyddyn nesa’.

Dyma fydd y model cyntaf gan Aston Martin i redeg yn gyfan gwbwl ar drydan, ac mae disgwyl iddo fod â’r un lefel o berfformiad â cheir arferol y cwmni, medden nhw.

“Trydaneiddio”

“Mae Aston Martin yn gweld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol wrth ddatblygu technolegau di-garbon, ac rwyf yn falch iawn y bydd Sain Tathan yn ‘Gartref Trydaneiddio’ ar gyfer brandiau Aston Martin a Lagonda,” meddai Andy Palmer, Llywydd Aston Martin a’r Prif Swyddog Gweithredol.

“Bydd y Rapide E yn arwain datblygiad strategaeth cerbydau di-garbon a charbon isel Aston Martin.

“Gan ailgyflwyno brand Lagonda, dyma ddangos pa mor amlwg yw trydaneiddio yn ein cynllun busnes wrth symud ymlaen.”