Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn galw heddiw am fwy o gydweithio rhwng dinasoedd yng Nghymru a Lloegr i greu pwerdy Gorllewin Prydain.

Mae disgwyl iddo ddweud mewn araith i Fforwm Polisi Cymru bod tollau pontydd Hafren wedi llesteirio twf economaidd y rhanbarth ers dros hanner canrif.

Ond erbyn diwedd y flwyddyn, fe fydd y tollau wedi cael eu diddymu. Mae cwmnïau yng Nghymru a Lloegr eisoes yn elwa o ostyngiad mewn TAW ar y tollau ers mis Ionawr.

Mae’r Fforwm yn gyfuniad o arweinwyr o feysydd llywodraeth leol, addysg a’r sectorau preifat ac academaidd o Gymru a Lloegr, ac fe fyddan nhw’n cael eu herio i feddwl am syniadau creadigol i ddatblygu’r perthnasau presennol a magu perthnasau newydd yn y ddwy wlad.

Pan fydd y tollau’n cael eu diddymu, fe fydd Llywodraeth Prydain am sicrhau llewyrch ariannol i ddinasoedd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Bryste a Chaerfaddon yn ogystal â rhanbarthau ehangach de Cymru a de orllewin Lloegr.

‘Dinasoedd ddim yn ddigon cryf gyda’i gilydd’

Wrth annerch y Fforwm heddiw, fe fydd Alun Cairns yn rhybuddio, er bod dinasoedd Cymru a Lloegr yn gryf ar eu pennau eu hunain, nad ydyn nhw’n ddigon cryf gyda’i gilydd ar hyn o bryd.

Fe fydd yn galw am “newid yn y ffordd y mae busnesau, pobol a diwydiant o’r dinasoedd a’r trefi y ddwy ochr i’r Hafren yn cydweithio pan fydd y tollau’n cael eu diddymu”.

Nid un ddinas yn arwain yw’r nod, meddai, ond yn hytrach gyfres o ddinasoedd a chymunedau’n cydweithio er mwyn “creu swyddi a chyfleoedd”.

Fe fydd yn dweud, “Mae angen i ni achub ar y cyfle i greu rhanbarth economaidd ar ochr orllewinol y DU all gystadlu â Phwerdy’r Gogledd, Injan y Canolbarth a gydag economi’r De Ddwyrain.”

‘Nid ymgyrch farchnata mo hon’

Ond fe fydd Alun Cairns yn mynnu nad “ymgyrch farchnata” na “digwyddiad un tro” mo’r cynllun newydd.

“Mae’n rhaid ei bod yn strategaeth ddifrifol yn y tymor hir i wneud y rhan hon o’r DU yn fwy na swm ei rhannau.

“Am yn rhy hir, mae rhwystr corfforol tollau Hafren wedi atal busnesau a phobol yng Nghymru a’r De Orllewin rhag cydweithio yn y modd y gallen nhw fod wedi gwneud.

“Tra bod gwahaniaethau yn ein rhanbarth draws-ffiniol, mae’n amlwg y gallwn ni ddysgu gwersi ac elwa ar brofiadau’n gilydd.”