Colli o 2-0 oedd hanes tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Aarhus.

Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy Christian Eriksen ar ôl 32 munud, cyn iddo ddyblu mantais ei dîm o’r smotyn ar ôl 63 munud, wrth i Ethan Ampadu lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Mae chwaraewr canol cae Spurs bellach wedi sgorio 15 o goliau yn ei 18 gêm ddiwethaf dros ei wlad.

Ond roedd perfformiad Cymru’n wahanol iawn i’r un a gafwyd yn y fuddugoliaeth o 4-1 dros Weriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd nos Iau.

Yn absenoldeb y capten Ashley Williams, roedd y tîm yng ngofal Gareth Bale, y tro cyntaf iddo arwain ei wlad ond fe gafodd yr ymosodwr brynhawn digon siomedig.

I’r gwrthwyneb, roedd tîm Denmarc ar ei gryfa’ yn dilyn anghydfod oedd yn golygu bod y sêr wedi gwrthod chwarae yn erbyn Slofacia yr wythnos ddiwethaf – a cholli o 3-0 oedd hanes tîm digon di-brofiad wedyn nos Fercher.

Cafodd Cymru hwythau broblemau hefyd wrth i’w hawyren lanio’n hwyr i’w cludo o Gaerdydd i Ddenmarc, gan gyrraedd yn oriau man y bore.

Cafodd perfformiad blinedig Cymru ei danlinellu gan gamgymeriad amddiffynnol ar ôl 32 munud a roddodd gyfle i Christian Eriksen rwydo am y tro cyntaf, wrth ergydio i’r postyn pellaf heibio i’r golwr Wayne Hennessey.

Ar ôl 63 munud, roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas pan gafodd Ethan Ampadu ei gosbi am lawio croesiad gan Viktor Fischer, a Christian Eriksen yno am yr ail waith i rwydo.

Bu bron i seren y gêm gipio trydedd gôl yn niwedd y gêm ag ergyd 25 llathen o gic rydd ond roedd golwr Cymru’n barod amdani.