Daeth cadarnhad mai Gareth Bale fydd yn arwain tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Denmarc yn Aarhus heddiw (dydd Sul, Medi 9, 5 o’r gloch).

Er iddo deithio i Ddenmarc, cafodd y capten rheolaidd, Ashley Williams ei hepgor o’r 23 terfynol gan y rheolwr Ryan Giggs.

Ben Woodburn sydd wedi cymryd lle Ashley Williams, ac mae disgwyl i James Chester ddechrau’r gêm yng nghanol yr amddiffyn.

Tîm Denmarc: K Schmeichel, S Kjær (capten), T Delaney, C Eriksen, M Braithwaite, M Jørgensen, H Dalsgaard, J Stryger Larsen, L Schöne, Y Poulsen, P Sisto

Tîm Cymru: W Hennessey, C Gunter, J Chester, C Mepham, B Davies, E Ampadu, J Allen, A Ramsey, T Lawrence, C Roberts, G Bale (capten)