“Gobaith a thorcalon” siwrnai IVF Elin Fflur fydd yn cael sylw ym mhennod gyntaf cyfres newydd ar S4C nos Sul (Medi 9, 9 o’r gloch).

Penderfynodd y gantores a chyflwynwraig a’i gŵr Jason roi caniatâd i gamerâu teledu ddilyn eu taith drwy’r broses IVF o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer y rhaglen Chdi, Fi ac IVF (cynhyrchiad Tinopolis).

Datgelodd hi’n ddiweddar ei bod hi wedi colli babi wythnosau’n unig ar ôl cael gwybod fod y driniaeth IVF wedi llwyddo.

Mae oddeutu 50,000 o’r 3.5 miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain sy’n cael trafferth beichiogi’n naturiol yn ceisio cymorth gan feddygon bob blwyddyn.

Ond mae stigma yn perthyn i’r broses o hyd.

‘Triniaeth anhygoel’

Ar drothwy’r rhaglen, dywedodd Elin Fflur, “Mae pobl yn gweld be dwi’n neud ac yn meddwl, ‘mae ganddi hi fywyd braf, mae ganddi swydd braf’, ac mae hynny’n wir achos mae ’na bobl yn gwneud swyddi llawer iawn gwell a phwysicach na fi. Dwi’n cysidro hi’n fraint neud be dwi’n neud.

“Ond ar ddiwedd y dydd, be ‘di pobl ddim cweit yn sylweddoli ydi y byswn i’n licio be’ sy’ ganddyn nhw – yn fwy ella na be’ s’gen i ar hyn o bryd – sef cael plentyn a theulu fy hun.”

Roedd un cylch o IVF eisoes wedi methu cyn dechrau ffilmio’r rhaglen ac roedd y pâr yn awyddus i rannu eu stori er mwyn i “bobol sylwi pa mor anhygoel ydi’r driniaeth yma ond hefyd, dwi am i bobol feddwl cyn gofyn y cwestiwn yna, “Da chi am drio cael babis?”

Y rhaglen

Bydd y rhaglen awr o hyd yn dilyn y pâr drwy gylch cyfan o driniaeth IVF ac yn ôl Elin Fflur, mae nifer y bobol sy’n cael trafferth beichiogi’n naturiol yn “frawychus”.

“Mae un ym mhob chwech cwpl ym Mhrydain yn cael trafferth beichiogi’n naturiol ac yn gorfod edrych ar wahanol ffyrdd o feichiogi.

“Mae o’n nychryn i bod cymaint o bobol yn mynd trwy hyn, mae o’n anhygoel.”

Ychwanegodd Jason: “Ond dyna pam oeddan ni’n meddwl bod hi’n bwysig i ni roi’r rhaglen allan yna dim ots be oedd wedi digwydd, jyst i bobl gael gwybod faint o drafferth mae pobl yn mynd trwyddo fo i gael plant, a bod ‘na ddim cywilydd.”