Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad yn Sir Drefaldwyn fore heddiw.

Aeth car Vauxhall Corsa gwyn oddi ar ffordd A490 ger y troad ar gyfer Bwlchycibau.

Cafodd y gyrrwr gwrywaidd ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol, a chafodd tair dynes fan anafiadau ar ôl bod yn teithio yn y car.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad, ond mae wedi’i hagor eto erbyn hyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.