Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad bachgen 14 oed o Gaerdydd.

Dydy James McRoberts ddim wedi cael ei weld ers dydd Iau (Medi 6) wrth iddo adael safle Ysgol Uwchradd St Illtyd yn Rhymni ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Wnaeth e ddim mynd adre’, ac mae pryderon am ei ddiogelwch.

Gwybodaeth

Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd e’n gwisgo’i wisg ysgol, a bag ar ei gefn. Doedd ganddo fe ddim côt, ffôn symudol nac arian.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel un sydd o gorffolaeth denau.

Mae lle i gredu y gallai fod yn bwriadu teithio i ardal Woking yn Surrey neu i Hampton Court yn Llundain, gan ei fod yn adnabod pobol yno. Mae ganddo fe gysylltiadau ag ardaloedd Porthcawl a Llandrindod hefyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.