Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi camau diogelwch yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol ar ddynes ddydd Llun diwethaf (Medi 3).

Wrth apelio am wybodaeth, mae’r heddlu’n dweud eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Heol Kendon a Parkway dinas Casnewydd rhwng 7.40 ac 8.40 y noson honno.

Pwysleisiodd yr heddlu mai digwyddiad unigol oedd hwn, a bod mwy o heddlu yn yr ardal ers yr ymosodiad.

Cyngor

Wrth rybuddio pobol o’r hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn aros yn ddiogel, dywedodd yr heddlu fod modd dilyn y cyngor canlynol:

  • Rhowch wybod i rywun lle’r ydych chi’n mynd ac am ba hyd fyddwch chi allan.
  • Lawrlwythwch ap ffitrwydd fel bod aelod o’r teulu neu ffrind yn gallu dilyn eich symudiadau – a chofiwch am y gosodiadau preifatrwydd.
  • Ewch â’ch ffôn gyda chi, a sicrhewch fod gennych chi fatri llawn.
  • Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw, a meddyliwch am lefydd prysur neu sydd wedi’u goleuo’n ddigonol.
  • Ystyriwch redeg neu gerdded gyda phobol eraill.
  • Os ydych yn teimlo’n annifyr, chwiliwch am le diogel lle mae pobol eraill a rhowch wybod i rywun am eich pryderon.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchfyd – canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o’ch cwmpas a phwy sydd o’ch cwmpas.
  • Peidiwch ag ymgolli yn eich ffôn symudol neu chwaraeydd MP3. Sicrhewch y gallwch chi glywed popeth o’ch cwmpas.