Mae’r nofel Sgythia gan y diweddar Gwynn ap Gwilym yn cael ei hail argraffu.

Cafodd y nofel hanesyddol, sy’n olrhain hanes John Dafis, Rheithor Mallwyd, ei chyhoeddi ddechrau’r flwyddyn gan Wasg y Bwthyn.

Bu farw Gwynn ap Gwilym ym mis Gorffennaf 2016, ond roedd wedi cwblhau’r nofel cyn hynny.

Cafodd ei chyhoeddi fis Mawrth eleni, ac yn ôl Gwasg y Bwthyn, mae pob un o’r 1,200 copi wedi’u gwerthu, gyda “thua 100 copi” y mis yn hedfan o’r silffoedd ar hyn o bryd.

Y nod yw argraffu 700 o gopïau ychwanegol, cyn y byddan nhw’n ystyried argraffu rhagor yn y dyfodol.

“Llyfrau o safon”

“Mae’n dangos ein bod yn cael llyfrau o’r safon orau,” meddai rheolwr y wasg, Aeron Jones.

“Mae gynnon ni nifer o awduron ar ein llyfrau.

“Cwmni bach ydan ni – gwasg fach yng Nghaernarfon – ond mae’r ffaith ein bod ni’n medru cael llyfrau o safon yn dangos natur a chryfder y cwmni.”