Mae undebau athrawon yn galw am newid y drefn sy’n caniatáu i asiantaethau wneud “elw mawr” wrth ddarparu athrawon llanw i ysgolion.

Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd, dywedodd Gareth Morgan o Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ei bod yn “sarhad bod cwmnïau preifat yn gwneud arian o lafur athrawon.

“Dyw hi ddim yn gyfrinach bod undebau yn gwrthwynebu’n ffyrnig asiantaethau athrawon oherwydd mae’r athrawon yn cael eu hecsbloetio,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

“Mae athrawon yn gweithio am gyflog prin iawn yn yr ysgolion ac mae asiantaethau – cwmnïau preifat – yn gallu gwneud elw mawr mas o’r sefyllfa.  “Mae o’n warthus a bod yn onest.”

‘£90 i’r athro, £50 i’r asiantaeth’

Mae Ysgrifennydd NEU [National Education Union] Cymru – sy’n cynrychioli athrawon, darlithwyr, gweithwyr cefnogol a chymorthyddion dysgu – yn pryderu am y sefyllfa hefyd.

“Ar hyn o bryd mae athrawon llanw yn cael eu gorfodi i gael gwaith drwy asiantaethau,” meddai David Evans, “a dydyn nhw ddim yn talu athrawon yn llawn am eu gwaith, dydyn nhw ddim yn talu’r hyn y dylen nhw ei gael”.

Yn ôl graddfeydd cyflogau athrawon, meddai, mae athro llanw “sydd i fod i dderbyn tâl o £140 y diwrnod yn derbyn rhywbeth fel £85 neu £90 (gan yr asiantaeth) ond mae’r asiantaeth yn dal i godi £140 y dydd ar yr ysgol. Mae hon yn broblem aruthrol.”

Fe ddywedodd pennaeth un asiantaeth athrawon wrth Golwg fod “llawer o’r elw yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r cwmni ar gyfer hyfforddi staff ac ati … mae gennym tua 200 o bobol yn gweithio i ni.”

Adolygu trefn athrawon cyflenwi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y drefn o gyflenwi athrawon “yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben a bydd angen i bob asiantaeth sydd wedi’i phenodi o dan y fframwaith gytuno i’r Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi”.

Rhagor am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg