Mae Academydd Cymraeg wedi “croesawu’r” alwad am sefydlu ‘Siarter Gymreig’ er mwyn amddiffyn Geiriadur Prifysgol Cymru.

Roedd yr Athro Dafydd Johnston yn ymateb i sylwadau gan Myrddin ap Dafydd a oedd yn traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yn Llanbedr Pont Steffan neithiwr (dydd Iau, Medi 6).

Yn y ddarlith ‘Cwrw, Cynghanedd a’r Corn Hirlas’, dywedodd y darpar Archdderwydd fod Geiriadur Prifysgol Cymru bellach yn ddibynnol “o’r llaw i’r genau” ar nawdd ariannol Llywodraeth Cymru ers diddymiad Prifysgol Cymru.

Galwodd felly am sefydlu ‘Siarter Gymreig’ a fydd yn gwarchod y geiriadur hanesyddol a gyhoeddodd ei rifyn cynta’ yn 1967.

“Amser i dyfu i fyny”

“Yn anffodus, mae’r Geiriadur wedi colli ei sicrwydd. Mae Prifysgol Cymru wedi cael ei diddymu, ac mae’r siarter wedi diflannu oherwydd hynny,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Mae cyfle da fan hyn felly i Senedd Cymru greu rhywbeth newydd sbon – Siarter Gymreig.

“Mae’n amser i dyfu i fyny, a gwarchod rhai o’r sefydliadau pwysig yng Nghymru.”

“Sefydlogrwydd”

Wrth ymateb, dywedodd yr Athro Dafydd Johnston fod angen sicrhau “sicrwydd a sefydlogrwydd” i brosiect hir dymor fel Geiriadur Prifysgol Cymru.

Er ei fod yn cydnabod bod y Geiriadur yn derbyn nawdd “sylweddol” gan Lywodraeth Cymru, ychwanegodd y byddai siarter genedlaethol yn “gaffaeliad mawr” i’r Geiriadur.

“Y broblem yw, fel soniodd Myrddin, o flwyddyn i flwyddyn, mae’r arian – mae’n rhaid ei adnewyddu bob tro,” meddai.

“Felly fe fydd y math o siarter genedlaethol, fel petai, yr oedd Myrddin yn sôn amdani, yn gaffaeliad mawr i’r Geiriadur er mwyn rhoi rhyw fath o sefydlogrwydd sydd ei angen ar gyfer prosiect hirdymor fel yna sy’n ceisio cofnodi holl hanes yr iaith a’i datblygiad i’r dyfodol.”