Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r dyn 53 oed a fu farw mewn damwain draffig angheuol ger y Gelli Gandryll ddechrau’r wythnos.

Bu farw Simon Dodd o Trethomas ger Caerffili yn dilyn damwain ar ffordd y B4350 rhwng y Gelli Gandryll ac Aberllynfi bnawn dydd Llun (Medi 3).

Roed tri cherbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys Vauxhall Corsa du a oedd yn teithio i gyfeiriad Aberllynfi, a Range Rover gwyrdd a Vauxhall Zafira glas a oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall am y Gelli Gandryll.

Cafodd teithiwr arall ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

“Colled”

Mewn teyrnged, dywed teulu Simon Dodd eu bod “wedi’u tristáu” gyda marwolaeth y “dyweddi ymroddgar a thad cariadus i’w blant.”

“Fe wnaeth fyw bywyd i’r eithaf ac fe fydd yn cael ei gofio am ei bersonoliaeth fawr,” meddai’r datganiad.

“Roedd Simon yn gefnogwr pêl-droed mawr ac yn gefnogwr brwd o Manchester United.

“Fe ddymunai’r teulu ddiolch i bawb am eu cydymdeimlad, sy’n golygu llawer yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.”