Perfformiad Ceri Rees wedi'i roi ar You Tube
Mae enwogion wedi condemnio cwmni teledu gan eu cyhuddo o gymryd mantais o wraig ganol oed o dde Cymru.

Mae achos Ceri Rees o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael sylw yn y papurau tabloid ar ôl iddi ymddangos ar y rhaglen dalent X Factor.

Hwn oedd y pedwerydd tro iddi gynnig am le ar y sioe ac fe gafodd ei pherfformiad ac ymateb y beirniaid a’r gynulleidfa eu dangos yn fanwl wrth iddi wneud smonach o ddwy gân o sioeau cerdd.

Roedd un o’r beirniaid hyd yn oed wedi gwneud hwyl am ben ei hymgais i ynganu enw’r sioe Les Miserables ac mae’r cwmni teledu wedi rhoi clip o’i rhan hi o’r rhaglen ar y wefan You Tube.

Enwogion yn beirniadu

Roedd enwogion fel y gantores Lily Allen a’r cyflwynydd teledu Lorraine Kelly wedi anfon negeseuon trydar ar unwaith i gondemnio ITV am ddangos y perfformiad.

Er ei bod yn dweud ei bod wedi cael gwersi canu, roedd hi’n amlwg bod y rhaglen wedi godro’r digwyddiad ac mae papurau tabloid fel y Sun a’r Mirror bellach yn beirniadu’r rhaglen.

Y cyhuddiad yw fod y rhaglen wedi cymryd mantais ar y wraig 54 oed, ond mae ITV wedi ymateb trwy ddweud bod gofal am y cystadleuwyr yn flaenoriaeth iddyn nhw.