Bu farw Meurig Voyle, cyn-Swyddog gydag Undeb Amaethwyr Cymru, a dyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “un o hoelion wyth” y byd amaeth. Roedd yn 93 oed.

Fe dreuliodd y gwr o Landdarog yn Sir Gaerfyrddin gyfnod yn Swyddog Gweithredol Sir Ddinbych yn y 1960au, ac yna yn Sir y Fflint. Fe fyddai’n tynnu coes yn aml gan ddweud ei fod wedi bod yn briod ddwywaith – i’w wraig ac yna i Undeb Amaethwyr Cymru.

Meurig Voyle oedd un o aelodau gwreiddiol Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi, ac ar ôl y rhyfel, sefydlodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog, gan ddod y Cadeirydd cyntaf.

Cyn ymuno ag Undeb Amaethwyr Cymru yn Ysgrifennydd Cynorthwyol Sirol ym 1961, cafodd ei gyflogi gan y Bwrdd Marchnata Llaeth ac yn hufenfa ‘Dairies United’ yng Nghaerfyrddin. Fe ymddeolodd yn 1989, ond gan gynnal ei ddiddordeb mawr yn yr hyn oedd yn digwydd ym myd amaeth.

Fe fu ym mhob Sioe Fawr yn Llanelwedd rhwng 1963 a 2017, oni bai am un cyfnod pan oedd ei wraig yn yr ysbyty.

Yn 1991, fe gafodd ei urddo i’r wisg werdd yng Ngorsedd y Beirdd. Ei enw yng ngorsedd oedd Meurig o Fyrddin.