Mae cwmni Horizon wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phryderon pobol leol am eu cynlluniau ym Môn, wedi iddyn nhw ennill yr hawl i glirio’r safle ar gyfer datblygu Wylfa Newydd.

Fe benderfynodd Cyngor Môn heddiw (dydd Mercher, Medi 5) i gymeradwyo cais ganddyn nhw i baratoi a chlirio 750 acer o dir ger pentref Cemaes yng ngogledd-ddwyrain yr ynys.

Pryder ymgyrchwyr yw y gallai’r cynlluniau gael effaith andwyol ar yr amgylchedd yno,  ond mae Horizon wedi mynnu y bydd Wylfa Newydd yn dod â “manteision enfawr” i’r ynys.

“Rydym yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn heddiw ynghylch ein cais i Baratoi a Chlirio’r Safle,” meddai llefarydd ar ran cwmni Horizon.

“Mae’n gam cadarnhaol arall ymlaen i’r prosiect pwysig hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn  hunanfodlon ac rydym wedi clywed y cwestiynau a godwyd.

“Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i liniaru a darganfod atebion i’w hymholiadau.”

Pryderon PAWB

Roedd ymgyrchwyr o grŵp PAWB (Pobol Atal Wylfa B) wedi erfyn ar Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn i wrthod y cais, gan gyhuddo Horizon o anwybyddu llais pobol leol.

Hefyd, roedden nhw wedi mynnu y byddai’r cynlluniau’n achosi “dinistr amgylcheddol”, ac y byddai’n amhosib adfer y safle i’w gyflwr presennol.