Mae ffrind i rapiwr o Gaerfyrddin a fu farw ddechrau’r flwyddyn, yn gobeithio cynnal “diwrnod a hanner” er cof amdano.

Roedd Gareth ‘Chef’ Williams yn aelod o’r grŵp hip hop Tystion yn yr 1990au, a bu farw ar Fawrth 19 yn dilyn brwydr degawd o hyd ag alcoholiaeth.

Mae Aled Thomas, cyfaill i Chef, yn dweud bod amodau ei farwolaeth yn “drist iawn”, ac wedi penderfynu – ynghyd â chyfnither y rapiwr, Angharad Griffiths – trefnu gwledd o gerddoriaeth yn ei enw.

‘Chefwyl’ yw enw’r digwyddiad hwnnw, ac yn ôl Aled Thomas dyma’n union beth fyddai Chef wedi eisiau iddyn nhw drefnu.

“Roedd Chef yn berson oedd yn lico gigs a phethe felna,” meddai wrth golwg360. “Ac roedd e’n hoffi cerddoriaeth gymaint. Felly ro’n i’n meddwl bod e’n beth naturiol i wneud.”

“Gwnaeth e farw mor ifanc. Ond, mae digwyddiad fel hyn mor bositif. Roedd e’n berson mor serchog, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu pethau tu allan i’n gafael ni.”

Achosion da

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Parrot yng Nghaerfyrddin ar Fedi 15, a bydd yr arian a fydd yn cael ei godi yn cael ei gyfrannu at ddau sefydliad.

Un o’r sefydliadau yma yw Uned Penderfyniadau Clinigol Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, lle dreuliodd Gareth Williams ei flynyddoedd ola’.

A’r llall yw Dr M’z, sef canolfan ieuenctid yng Nghaerfyrddin, a phrosiect sydd yn ddibynnol ar gyfraniadau, meddai Aled Thomas.

“Mae dyfodol Dr M’z trwy’r amser yn y balans,” meddai. “Maen nhw’n dibynnu ar arian y Cyngor a phethe felna, jest er mwyn cadw’r drysau ar agor.”

Aduniad

O ran lein-yp y digwyddiad bydd llu o gerddorion yn cymryd rhan gyda bandiau gitâr, DJs, artistiaid electroneg a grwpiau hip hop yn eu plith.

Bydd ambell fand ifancach yn cymryd rhan gan gynnwys Los Blancos a Silent Forum, ond mae sawl enw cyfarwydd llawer hŷn ar y lein-yp hefyd.

 Zabrynski yn DJio ac Euros Childs, o Gorky’s Zygotic Mynci – artistiaid o Gaerfyrddin a ddaeth yn adnabyddus yn yr 1990aua 2000au – bydd y noson fel taith yn ôl mewn amser.

“Mae’r ystafell yn mynd i fod yn llawn ag aelodau o’r genhedlaeth hŷn,” meddai Aled Thomas. “Mae’n mynd i fod fel aduniad.”

Ac mae rhagor o artistiaid i’w cyhoeddi, felly mae yna un cwestiwn ar feddwl pawb: A fydd aelodau eraill Tystion yn dod at ei gilydd i berfformio? “Bydd rhaid i chi aros i ffindo mas!” meddai.