Mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 “wedi deffro” dyhead ymhlith grŵp newydd o gefnogwyr am annibyniaeth wleidyddol i Gymru.

Dyna neges Dano Lewis, sylfaenydd Cefnogwyr Pêl-droed Cymru Dros Annibyniaeth wrth golwg360 wrth i Gymru baratoi i herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos fory (dydd Iau, Medi 6).

Ar noson y gêm, fe fydd y criw yn cyd-gerdded o Stryd Womanby yn y brifddinas am 6.30yh mewn da bryd ar gyfer y gic gyntaf am 7.45yh, ac mae gwahoddiad i gefnogwyr gyfarfod â nhw a chludo baneri Cymru a/neu annibyniaeth ar hyd y daith i’r stadiwm.

“I genedl fach fel ni, roedd y perfformiadau yn Ewro 2016 yn alwad i ddeffro ar gyfer Cymru. Roedd yn help mawr i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Nawr, dw i’n gobeithio trosglwyddo’r teimladau hyn i wleidyddiaeth.”

Aeth Dano Lewis a’i ffrind Andrew Benjamin ati i sefydlu’r grŵp er mwyn “normaleiddio’r cysyniad o annibyniaeth”, meddai, “fel y gwnaeth yr Alban”.

“Ac wrth gwrs, r’yn ni’n ffans pêl-droed hefy,d felly mae’n gymysgedd o’r ddau.”

Grwpiau annibyniaeth yn y byd chwaraeon

Mae’r grŵp yn un o nifer o grwpiau tebyg sydd wedi’u sefydlu gan gefnogwyr chwaraeon yn ddiweddar. Yn eu plith mae Cefnogwyr y Scarlets dros Annibyniaeth.

Ychwanegodd Dano Lewis fod yna “wahaniaeth mewn demograffeg” rhwng cefnogwyr pêl-droed a rygbi, ond fod “pobol o bob cefndir yng Nghymru’n caru pêl-droed a rygbi” a bod eu hagweddau at annibyniaeth i Gymru “yn dechrau newid”.

Ar ôl cyd-gerdded i’r stadiwm nos Iau, mae Dano Lewis yn gobeithio y bydd yr achlysur yn fan cychwyn ar gyfer sgyrsiau am annibyniaeth, Yes Cymru, herio’r status quo a materion fel Geiger Bay [ymgyrch yn erbyn gollwng gwastraff niwclear]”.

Mae hefyd am weld trafod y lagŵn yn Abertawe, y trac rasio ym Mlaenau Gwent, a gweld pobol newydd yn dangos diddordeb – ac, wrth gwrs, sut y mae sicrhau triphwynt i Gymru,