Er mwyn fod yn gymwys i dderbyn cymorthdaliadau wedi Brexit, dylai bod yn rhaid i ffermwyr ofalu am lwybrau cerdded ar eu tir.

Dyma amod a ddylai cael ei gyflwyno, meddai hoffai Cymdeithas y Cerddwyr, ar ôl i daliadau’r Undeb Ewropeaidd ddod i ben.

Mae’r elusen hefyd yn credu y dylai bod tirfeddianwyr yn cael eu gwobrwyo am ychwanegu a gwella llwybrau, trwy sustem “taliadau cyhoeddus”.

Amod

“Rydym yn gwybod bod ffermwyr yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod eu busnesau yn llwyddo,” meddai Tompion Platt, Cyfarwyddwr Eiriolaeth a Chyswllt yr elusen.

“Rydym hefyd yn cydnabod eu bod yn darparu buddion ehangach i gymdeithas, a’n credu y dylen nhw barhau i dderbyn arian cyhoeddus.

“Ond, er mwyn derbyn yr arian yna, mi ddylai ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i wireddu’r cyfrifoldeb o gadw llwybrau ar eu tir yn glir.”

Arolwg

Mae arolwg gan YouGov ar ran yr elusen yn dangos bod:

* 69% wedi profi trafferthion â llwybrau sydd heb gael eu cynnal yn iawn

* 65% yn cytuno y dylai ffermwyr dderbyn llai o gymorthdaliadau am fethu â gofalu am lwybrau ar eu tir

* 60% yn cefnogi rhoi rhagor o arian i dirfeddianwyr sy’n creu rhagor o lwybrau

Cafodd 1,848 o bobol yng Nghymru a Lloegr eu holi.