Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain draffig angheuol ger y Gelli Gandryll brynhawn ddoe (dydd Llun, Medi 3).

Bu’r digwyddiad ar ffordd y B4350 rhwng y Gelli Gandryll ac Aberllynfi am 3:40yh. Roedd tri cherbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys Vauxhall Corsa du, Range Rover gwyrdd a Vauxhall Zafira glas.

Y gred yw bod y Vauxhall Corsa yn teithio i gyfeiriad Aberllynfi, tra bo’r ddau gerbyd arall yn teithio i gyfeiriad y Gelli Gandryll.

Bu farw gyrrwr y Vauxhall Corsa yn y fan a’r lle, tra bo teithiwr yn y Range Rover wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae’r teithiwr hwnnw bellach mewn cyflwr sefydlog.