Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn 60 oed yn ardal Penlan yn Abertawe.

Fe gafodd swyddogion eu galw tua 1:30yp ddoe (dydd Llun, Medi 4) i ddigwyddiad ger Clwb Rygbi Penlan ar Heol Gwyrosydd.

Yn ôl yr heddlu, mae dyn yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad.