Mae S4C wedi dod i gytundeb â Sky Sports i ddarlledu pob un o gemau pêl-droed dynion Cymru yn fyw yn ystod y ddau dymor nesa’.

Mae’r cytundeb ar gyfer 16 gêm yn cynnwys dangos pob un o gemau Cymru yn Nhwrnamaint Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Euro 2020.

Bydd y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ar Hydref 11 ac Albania ar Dachwedd 20 hefyd yn cael eu dangos.

“Newyddion ardderchog”

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i wylwyr S4C ac i gefnogwyr pêl-droed Cymru,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

“Yr ydym i gyd yn cofio’r gystadleuaeth Ewro ddiwethaf yn 2016 a’r llawenydd a’r pleser a ddaeth hynny i bawb yng Nghymru.

“Roedd yn fraint i allu dod â’r profiadau hynny i’n gwylwyr.

“Gobeithio y bydd y ffordd i 2020 yr un mor gyffrous a llwyddiannus ar y maes ac ar y sgrin.”

Bydd yr arlwy yn dechrau’r wythnos hon gyda gemau cynta’ Cynghrair y Cenhedloedd, wrth i Gymru herio Gweriniaeth Iwerddon nos Iau (Medi 6), ac yna Denmarc yn Arhus ddydd Sul (Medi 9).