Mae dyn o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar am achosion o gam-drin plant ar-lein.

Cafodd Shane Wakefield, 25 oed, o Dreforys, ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Abertawe o wyth trosedd yn ymwneud ag wyth dioddefwr.

Mae’r troseddau a gyflawnodd yn cynnwys annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol a bod ym meddiant lluniau anweddus o blant. Roedd wedi targedu’r merched ifanc ar-lein.

Yn ôl y Ditectif-Gwnstabl Richard Jones o Heddlu De Cymru, a oedd yng ngofal yr achos, dyma’r achos mwya’ “ingol” y mae e wedi gorfod delio ag e mewn cyfnod o 20 mlynedd.

Gweithredu ar-lein

Fe ddaeth Shane Wakefield i sylw’r awdurdodau pan wnaeth plentyn o’r Alban wneud cwyn amdano i’r cyfrwng cymdeithasol, Snapchat.

Roedd hi wedi cyflwyno’r gwyn ar ôl i’r dyn 25 oed fygwth cyhoeddi lluniau anweddus ohoni pe na bai’n cytuno i weithredu yn ôl ei ddymuniad.

Ar ôl i’r gwyn gael ei throsglwyddo i Heddlu’r Alban, fe gafodd Shane Wakefield ei arestio yn 2015, gyda Heddlu De Cymru yn darganfod yn ddiweddarach bod y troseddwr wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â merched ifanc ledled y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’n debyg ei fod yn defnyddio’r un system o gyfathrebu gyda merched, gan ofyn am luniau yn gyfnewid am roddion fel tocynnau iTunes.

Roedd wedyn yn defnyddio’r lluniau i ofyn am luniau a fideos anweddus, gan ddangos dim cydymdeimlad i’w ddioddefwyr pan oedden nhw’n gofyn iddo am lonydd.

“Unigolyn oeraidd”

Mae’r Ditectif-Gwnstabl Richard Jones yn dweud bod Shane Wakefield yn “unigolyn oeraidd” a aeth ati’n “fwriadol” i dargedu merched ifanc.

“Mae’r effaith y mae gweithredoedd Wakefield wedi’i gael ar y dioddefwyr ifanc yn anfesuradwy,” meddai.

“Mae nifer ohonyn nhw wedi bod yn hunan-niweidio, yn ystod ac ar ôl y cyfnod o gamdriniaeth, ac mae eu teuluoedd wedi dangos dewrder eithriadol trwy gydol yr ymchwiliadau a gwrandawiadau llys hirfaith.

“Dw i’n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi cysur wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu bywydau.”

Mae Shane Wakefield wedi cael dedfryd o wyth mlynedd o garchar ac fe fydd ei enw yn cael ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw.