Mae disgwyl y bydd Taith Prydain wedi cyfrannu £4m i economi de Cymru, yn ôl Cyngor Sir Gâr.

Fe gychwynnodd y ras ym Mharc Gwledig Pen-bre ddoe (dydd Sul, Medi 3), gan deithio ar hyd de Cymru hyd at ddinas Casnewydd.

Dyma’r tro cyntaf i Daith Prydain gael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin, ac mae Cyngor Sir Gâr yn gobeithio denu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon i’r sir.

Mae pum llwybr beicio newydd hefyd wedi’u datgelu gan yr Awdurdod Lleol yn dilyn y ras ddoe.

“Diolch”

“Mae hwn yn wych i Sir Gaerfyrddin, i’n diwydiant twristiaeth sy’n tyfu, i fusnesau lleol ac i’r cymunedau lleol,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole.

“Rwy’n falch iawn o’r croeso y mae Sir Gaerfyrddin wedi’i roi i Daith Prydain, a hoffwn ddiolch i’r trefnwyr am ymddiried ynom i ddarparu diwrnod rhagorol o rasio.”

Llwybrau beicio newydd

Ar ddiwrnod y cymal cyntaf, fe ddatgelodd Cyngor Sir Gâr pump o lwybrau beicio newydd.

Mae’r llwybrau gyda’i gilydd yn teithio dros 450km o dir, ac mae pob llwybr yn amrywio o ran hyd a lefel anhawster.

Y pum llwybr yw:

  • Gwylltir y Gorllewin (105km) i’r gogledd o Lanymddyfri ac sy’n croesi i Geredigion;
  • Rhiwiau Hirion, Beiciwr Bodlon (101km), sy’n daith trwy Lanymddyfri a Llandeilo ac ar hyd cyrion Bannau Brycheiniog;
  • Taith Afon Teifi (90km) trwy Gastellnewydd Emlyn;
  • Taith Cestyll Dyffryn Tywi (95km) sy’n cychwyn yng Nghaerfyrddin;
  • Llwybr Arfordirol Bae Caerfyrddin (62km) trwy ardal Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.