Mae dynes 51 oed wedi’i chyhuddo o droseddau brawychol yn dilyn adroddiadau bod ffrwydron mewn eiddo yng Nghoed-Elái yng Nghaerdydd.

Daw’r cyhuddiadau ddiwrnod yn unig ar ôl i ddyn 27 oed, Edward John Harris, gael ei gyhuddo mewn perthynas â’r achos.

Mae Natalie Parsons, 51, wedi’i chyhuddo o ddau achos o greu neu feddu ar sylwedd ffrwydrol gyda’r bwriad o beryglu bywydau neu achosi niwed difrifol i eiddo, a phedwar achos o feddu ar ddogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol mewn achos o frawychiaeth.

Bydd hi’n mynd gerbron ynadon Westminster ddydd Llun (Medi 3), ac fe fydd Edward John Harris yn cael ei gadw yn y ddalfa ar yr un cyhuddiadau tan Fedi 27.

Mae’r heddlu wedi pwysleisio nad oes tystiolaeth o gynllwyn brawychol yng Nghaerdydd nac yn erbyn pobol yng Nghaerdydd.