Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char rali ar ffordd wledig yn y gogledd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yng Nghoedwig Clocaenog, ffordd B5105 rhwng Sir Ddinbych a Sir Conwy, am oddeutu 10 o’r gloch fore Sadwrn (Medi 1).

Bu farw’r dyn 48 oed o Lannau Mersi yn y fan a’r lle.

Mae gyrrwr y car mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, lle mae ei fywyd mewn perygl, a chafodd teithiwr arall ei gludo i’r ysbyty.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.