Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio yn dilyn achos o daro a ffoi yng Nghaerdydd.

Mae dyn 24 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Caerffili’r brifddinas toc ar ôl 1 o’r gloch fore heddiw.

Mae’r gyrrwr wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n ddiofal, o yrru dan ddylanwad alcohol ac o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.