Bydd sinema newydd yn agor yng Nghaernarfon ddiwedd y mis, yn rhan o estyniad £4m ar adeilad Galeri.

Bydd dwy sgrîn ar gael yn y sinema newydd, gyda’r un fwyaf yn cynnwys 119 o seddi a’r un leiaf â lle i 65.

Bydd yr estyniad hefyd yn cynnwys mynedfa a swyddfa docynnau newydd, gofod arddangos celf a chrefft, ynghyd ag ystafelloedd celf a chyfarfod.

Prosiect wyth mlynedd

Mae’r gwaith o gynllunio ac adeiladu’r estyniad ar y gweill ers wyth mlynedd, ac mae wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru a chynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

“Yn ôl yn 2010, fe wnaethom ddod i bwynt fel busnes lle nad oedd posib datblygu’r rhaglen artistig drwy rannu theatr sinema yn yr un gofod,” meddai Prif Weithredwr Galeri, Gwyn Roberts.

“Erbyn hyn, mae gennym ofod pwrpasol ar gyfer datblygu’r rhaglen sinema sydd am ryddhau’r theatr am oddeutu 90 diwrnod y flwyddyn ar gyfer mwy o ddigwyddiadau byw ac i ddenu mwy o gynadleddau ac ati i Gaernarfon.”

Bydd yr estyniad newydd hefyd yn ehangu rhaglen artistig Galeri, gyda chyfleoedd i logi ystafelloedd ar gyfer cynadleddau a phriodasau.

Actor adnabyddus

Nod y sinema yw arddangos amrywiaeth o ffilmiau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ffilmiau newydd.

Bydd rhaglen y sinema’n cael ei chyhoeddi ar Fedi 14 ac ar wefan Galeri ar Fedi 7.

Cyn hynny fe fydd Galeri’n cynnal cyfres o ddangosiadau rhwng Medi 11 a 13 er mwyn treialu’r systemau a’r adeilad newydd.

Bydd yr agoriad swyddogol ar Fedi 21, ac mae disgwyl i’r actor Rhys Ifans fod yn bresennol.