Fe fydd wyth o bobol yn seiclo pellter o 300 milltir dros y dyddiau nesaf i godi arian at ganser y prostad.

Bydd yr wythawd o’r gogledd yn ceisio cwblhau’r her o fewn pedwar diwrnod, gan adael am 9 o’r gloch fore Sul (Medi 2), a’r holl arian yn mynd at Prostate Cymru.

Y rhai sy’n cymryd rhan yw Owain Wyn a John Williams o Gaernarfon, Iolo Jones o Ddeiniolen, Trystan Edwards, Huw Smallwood a Rheinallt Jones o Gerrigydrudion, a Rhys Evans ac Alwyn Roberts o’r Bala.

Ar ôl gadael Llyn Tegid, eu gobaith yw cyrraedd Llyn Windermere ddiwedd dydd Llun, a Loch Lomond erbyn diwedd dydd Mercher.

Cawson nhw eu hysbrydoli gan eu llwyddiant wrth seiclo o Gerrigydrudion i Ynys Wyth ac o gwmpas arfordir Gogledd Iwerddon yn y gorffennol.

Bedair blynedd yn ôl, teithion nhw o’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd i Ypres yng Ngwlad Belg.

Bydd modd dilyn eu taith ar dudalennau Facebook a Twitter Beicwyr Elusennol Eryri.

‘Diolch’

Ar drothwy’r daith, dywedodd Trystan Edwards, “Bydd y daith eleni yn ymweld â llynnoedd mwyaf Cymru, Lloegr a’r Alban a’r bwriad ydy teithio cyfanswm o ryw 311 o filltiroedd.

“Fyddai hyn ddim yn bosib heb gymorth hael Conwy MotorHome Hire sy’n darparu cerbyd cefnogol i’r criw ar gyfer yr holl daith, ac fe hoffem ni ddiolch o galon am eu nawdd.

“Yn yr un modd mae Gwynfor James o SportsPictures Cymru wedi sicrhau fod gennym ddigon o siwgwr ar ffurf jelly babies i’n cadw ni i fynd ar gyfer y daith hir!”

Ychwanegodd Owain Wyn, “Rydan ni’n hynod ddiolchgar am bob cymorth er mwyn ein galluogi i godi gymaint o arian ag y bo modd at achos mor deilwng.

“Fel dynion, mae pob un ohonom yn gwerthfawrogi elusen mor bwysig yw Prostad Cymru.”