Mae dyn o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o droseddau brawychol.

Cafodd Edward John Harris ei arestio yn dilyn adroddiadau bod ganddo fe ffrwydron yn ei gartref yng Nghoed-Elái. Roedd ganddo fe ddogfennau brawychol yn ei feddiant hefyd.

Ond mae’r heddlu wedi pwysleisio nad ydyn nhw’n credu bod bygythiad i ddiogelwch y brifddinas.

Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Westminster ddydd Sadwrn, wedi’i gyhuddo o bedwar achos o greu sylwedd ffrwydrol neu o fod â sylwedd ffrwydrol yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu achosi anaf neu ddifrod i eiddo.

Mae hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o fod â dogfennau brawychol yn ei feddiant.

Mae ail berson yn cael ei holi yn y ddalfa.