Colli wnaeth tîm merched Cymru yn erbyn Lloegr, a hynno o dair gôl.

Bellach, mae’r breuddwyd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cynta’ bron â bod ar ben.

Dim ond un cyfle gwirioneddol dda a gafodd y tîm cartre’ o flaen torf fawr yn Rodney Parade, Casnewydd.

Ar y cyfan, roedd chwaraewyr proffesiynol Lloegr yn llawer rhy gry’ i’r merched amatur o Gymru, wrth iddyn nhw ildio goliau yn y gystadleuaeth am y tro cynta’.

Fel yn y gêm gynharach yn Lloegr, roedden nhw wedi amddiffyn yn wydn trwy’r hanner cynta’ ond fe ddaeth goliau’r Saeson mewn cyfnod o 12 munud yn yr ail.

Mae Cymru bellach yn dibynnu ar ganlyniadau timau yn y grwpiau eraill er mwyn mynd i’r gêmau ail gyfle.