Mae gwasanaeth sy’n cefnogi dioddefwyr trais yng ngogledd Cymru, wedi bod yn gwneud defnydd o geffylau er mwyn helpu pobol i oroesi wedi cam-drin.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei alw’n ‘Goresgyn Rhwystrau’, yn cael ei gynnig gan y gwasanaeth Gorwel mewn partneriaeth â Sefydliad Therapi Ceffylau Cymru.

Y nod yw rhoi cyfle i ferched ifanc ac oedolion yn Ynys Môn a Gwynedd fod yn rhan o weithgareddau sy’n eu helpu i feithrin hyder a sgiliau cyfathrebu.

‘Therapi’

Mae’r prosiect yn cynnwys gweithgareddau lle y gall pobol farchogaeth a dysgu mwy am geffylau.

“Gall y gwaith gyda cheffylau gyfleu problemau mewn ffyrdd arbennig ac maen nhw’n anifeiliaid sy’n cyfathrebu’n dda gyda phobol,” meddai Gwyneth Williams, rheolwraig Gorwel.

“Maen nhw felly yn wych am helpu pobol sydd wedi bod trwy gyfnodau heriol yn eu bywydau.”

Cludiant am ddim

Mae elfen chwaraeon y cynllun yn cael ei ariannu gan gronfa ‘Levelling the Field’ Comic Relief, sy’n helpu merched i ymwneud â chwaraeon na fyddan nhw fynychaf yn eu gwneud.

Mae Gorwel yn cael ei redeg gan y gymdeithas dai, Grŵp Cynefin, ac mae’n darparu cludiad am ddim i safleoedd lle mae’r gweithgareddau’n cael eu cynnal.