Mae Heddlu’r De wedi galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus, yn dilyn cyfres o adroddiadau am ddynion yn dynwared plismyn.

Mae’r ffug heddweision yma wedi bod yn twyllo pobol i ildio arian, ac wedi bod yn cyflawni’r troseddau yma dros y ffôn yn bennaf.

Yn aml mae’r troseddwyr yn bygwth anfon y bobol y maen nhw’n eu targedu i’r carchar, ac yn eu cyhuddo o beidio â thalu trethi.

Yn ardaloedd Caerdydd, Y Bari, Pen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd mae’r broblem wedi bod ar ei gwaethaf, yn ôl yr heddlu.

Achosion o dwyll

  • Clywodd dyn 91 blwydd oed o Bentwyn y byddai’n cael ei rhoi gerbron llys oni bai ei fod yn galw rhif ffôn penodol
  • Clywodd dynes oedrannus o Ben-y-bont ar Ogwr y byddai’n cael ei harestio os na fyddai’n talu bron i £50,000
  • Clywodd dyn 82 blwydd oed o Abertawe bod arno £4,000 i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC), am ei fod wedi methu a thalu trethi am bron i ddegawd

“Cyfrwys”

“Mae’r twyllwyr yma yn gyfrwys a’n hynod o broffesiynol, ac mae’n hawdd deall pam bod pobol yn credu mai galwadau go iawn yw’r rhain,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jon Drake.

“Fodd bynnag, rydym yn erfyn ar bobol i gofio na fyddai’r heddlu, banciau neu HMRC erioed yn cysylltu â chi yn gofyn am arian dan yr amodau yma – twyll yw hyn.

“Cofiwch adrodd achosion i ni, boed y twyllwyr yn llwyddo neu beidio, oherwydd bydd hyn yn helpu ein hymchwiliad i’r mater.”