Mae’r gymuned ym Mhorthmadog wedi’i “dychryn” ar ôl i un o siopau mwyaf adnabyddus y dre’ gau ei drysau am y tro ola’, yn ôl cynghorydd lleol.

Daeth y cyhoeddiad prynhawn ddoe (dydd Iau, Awst 30) bod siop Keerfoots ym Mhorthmadog wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr, a hynny wedi 144 o flynyddoedd yn masnachu yn y dre’.

Mae dros 20 o bobol wedi colli’u swyddi, ac mae golwg360 yn deall mai lleihad mewn gwerthiant sy’n gyfrifol am gau’r siop nwyddau.

Yn ôl Selwyn Griffiths, sy’n aelod o Gyngor Tref Porthmadog, mae’r cyhoeddiad wedi bod yn “sioc” i’r dre’ gyfan, ac mae cau’r siop yn “andros o golled” i’r stryd fawr yno.

“Siopau wedi newid”

“Mae’r gymuned wedi’i dychryn yn arw iawn,” meddai wrth golwg360.

“Yn naturiol, mae siopa wedi newid. Mae yna lawer iawn o siopa ar-lein a phethau felly, dyw hynny ddim yn help i’r busnes.

“Mae trethi busnes yn eithafol o uchel hefyd, dyw hynny ddim yn help.

“Ond i ni fel tre’, mae’r siop yma wedi bod yn eicon yn y dre’, gyda rhai yn ei chymharu hi efo siopau mawr Llundain.”

Fe agorodd Keerfoots yn 1874 i werthu nwyddau haearn, cyn troi’n siop fwy cyffredinol o’r 1980au ymlaen yn gwerthu amrywiaeth o ddillad, nwyddau’r cartre’ a bwydydd.

Poeni am y stryd fawr

Mae Selwyn Griffiths yn dweud bod cyflwr y stryd fawr ym Mhorthmadog “ddim yn ddrwg” ar hyn o bryd, ond mae’n poeni’n arw ynghylch yr effaith mae cau siop fawr fel Keerfoots yn mynd i’w gael arni.

“Mae wedi bod yn waeth,” meddai. “Rhyw dair siop wag oedd yno, gyda phedair erbyn rŵan.

“Mae pethau wedi dechrau codi i fyny yma. Mae busnesa bychain newydd fatha siop bysgod newydd sydd wedi agor y flwyddyn yma, ac mae yna gwmni gwestai yn mynd i agor gwesty ar y stryd fawr.

“Ond fel mae pethau’n edrych, yn enwedig gyda siop fawr ynghanol y stryd fawr yn wag, mae’n mynd i edrych yn ddigalon iawn.”