Wrth drafod ei gasgliad newydd o ganeuon yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg, mae Dafydd Iwan yn galw ar yr ifanc i fynd allan a mynnu dyfodol i’r iaith Gymraeg.

“Dw i’n dal i gredu ei bod hi’n bwysig nad ydy pobol ifanc ddim yn derbyn pethau’n ddi-gwestiwn ac yn sefyll i fyny dros gyfiawnder,” meddai’r canwr a dreuliodd gyfnod dan glo am brotestio tros y Gymraeg.

“Braidd yn ddigyfeiriad ydy pethau ar hyn o bryd a’r duedd ydy cadw allan o bethau. Ond dyna pam mae angen mudiad fel Cymdeithas yr Iaith – er mod i’n anghytuno efo nhw ar adegau.

“Mae patrwm cymdeithas wedi newid gymaint, dydy’r genhedlaeth ifanc ddim mor barod i ymuno ag ymgyrch a mudiad – dydyn nhw ddim yn gweld yn ddigon clir yr angen i ymgyrchu, ond dw i’n gobeithio gwneith hynny newid.”

Diwylliant grantiau yn “sefyllfa beryglus”

Mae diwylliant Cymraeg mewn trybini am ei fod “bron yn gyfan gwbl” yn ddibynnol ar nawdd o’r pwrs cyhoeddus – dyna farn Dafydd Iwan.

Wythnos diwethaf roedd y canwr yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed, ac i nodi’r achlysur mae wedi cyhoeddi’r albym Ugain o’r Galon sy’n cynnwys 20 o draciau sy’n agos ato.

Mae yn sôn am bwysigrwydd y caneuon yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon ac yn trafod gwleidyddiaeth a materion y dydd.

“Un broblem sydd gennym ni yng Nghymru ydi bod y diwylliant Cymraeg bron yn gyfan gwbl yn ddibynnol ar nawdd,” meddai Dafydd Iwan, “ac mae hynny’n cynnwys y celfyddydau creadigol.

“Mae hi’n sefyllfa anochel ond mae hi’n sefyllfa beryglus. Mae yna duedd felly i bobol sy’n ymwneud â’r diwylliant a’r celfyddydau creadigol fod yn ofalus beth maen nhw’n ei ddweud yn gyhoeddus. Yr unig bobol sy’n barod i feirniadu’n gyhoeddus ydi pobol sydd wedi cael eu gwrthod i gael grant.”

Ac yntau’n un o berchnogion cwmni recordio Sain, dywedodd Dafydd Iwan wrth Golwg y bydd yn rhaid i’r diwydiant recordio cerddorol poblogaidd ddibynnu fwyfwy ar nawdd.

“Y peryg ydi bod yna bris i’w dalu am fod ar drugaredd nawdd cyhoeddus, lle’r ydych chi’n dal yn ôl,” meddai. “Os ydi’r gwleidyddion a phawb arall yn ymwybodol o’r peryg yna, mae ffordd i’w wrthweithio fo.”

“Mae’n anodd iawn rhoi’r gorau iddi!” – mwy gan Dafydd Iwan am ei gasgliad newydd yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg