Datgelodd gylchgrawn Golwg yr wythnos hon fod unig gwmni opera Cymraeg yn y byd wedi cael arian i wneud opera o nofel enwoca’r iaith Gymraeg, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

Daw’r nawdd cychwynnol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu’r nofel yn opera yn dilyn llwyddiant cwmni Opra Cymru o Flaenau Ffestiniog gyda’u cyflwyniad o Wythnos yng Nghymru Fydd – fersiwn operatig y cyfansoddwr Gareth Glyn o nofel enwog Islwyn Ffowc Elis, a enillodd y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru.

“Ar ôl llwyddiant opera newydd Wythnos yng Nghymru Fydd,” meddai Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Patrick Young, “rydan ni wedi penderfynu perswadio Gareth Glyn i wneud un opera arall. “Mae o’n awyddus iawn i wneud fersiwn o nofel Caradog Prichard. Dw i’n meddwl y bydd o’n ddiddorol iawn.”

Llawer mwy am y cynlluniau cyffroes yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg