Mae ’na oedi hir ar Bont Britannia ym Mhorthaethwy, Ynys Môn y bore ma (dydd Gwener, 31 Awst) yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn ystod oriau man y bore.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod y ffordd i gyfeiriad y dwyrain ynghau ac mae’n debygol y bydd yn aros ynghau tan tua 10yb. Mae’r ffordd i gyfeiriad y gorllewin ar agor.

Mae’r heddlu’n cynghori teithwyr i osgoi’r ardal neu ddefnyddio Pont Borth.