Mae Adam Price wedi cyhoeddi ei gynllun economaidd heddiw yn y ras i ddod yn arweinydd Plaid Cymru.

Yn y cynllun, mae’n cynnig cael gwared ar drethi busnes a threthi cyngor a lleihau’r dreth incwm, gan gyflwyno Treth Gwerth Tir ar dir preswyl, masnachol a diwydiannol, ac eithrio tir amaethyddol.

Dywed y gwleidydd y byddai hynny’n “rhoi mwy o arian ym mhocedi’r bobl…hybu’r economi trwy gynyddu gwariant” a gwneud Cymru “yn hynod o ddeniadol i bobl ifanc sy’n ceisio dychwelyd neu adleoli i weithio neu ddechrau busnes.”

Mae cynllun economaidd 10 pwynt yr Aelod Cynulliad yn dilyn ei gynllun “saith pwynt” at annibyniaeth.

Syniadau “bwriadol arbrofol”

Yn ôl Adam Price, mae ambell i syniad polisi yn ei gynllun yn “fwriadol arbrofol” ac yn syniadau i’w hanelu atynt dros yr hirdymor.

Mae ei gynigion eraill yn cynnwys sicrwydd swydd i bobl 18-24 oed; cwmni isadeiledd cenedlaethol i yrru datblygiadau; buddsoddi £2 biliwn drwy fanc datblygu Cymru a chreu cwmni ynni cenedlaethol.

“Mae’n gynllun cynhwysfawr a all ddarparu twf economaidd i’r holl ranbarthau a rhoi arian ym mhocedi pobl,” meddai Adam Price.

“Rwyf wedi ymgorffori tua 50 o syniadau polisi – rhai o bob cwr o’r byd a rhai yn nes at gartref – i gyd gyda’r nod o roi Cymru ar sylfaen economaidd gadarn, gan fuddsoddi mewn cymunedau a sgiliau ein pobl, a chreu’r amodau i Gymru symud i gyflawni ein hannibyniaeth, gan wireddu ein potensial llawn fel pobl ac fel cenedl.

“Mae nifer ohonynt yn rhai hirdymor ac mae rhai yn arbrofol yn fwriadol, ond mae pob un yn rhan o weledigaeth gyffredinol sy’n radical, ymarferol ac yn bosibl, ac yn medru effeithio ar y newid yr ydym angen i uwchraddio perfformiad economaidd Cymru.

“… Rwy’n gobeithio y bydd yr aelodau’n gweld y dyfodol economaidd cadarnhaol y gallwn ni arwain ein gwlad at os ydynt yn rhoi eu ffydd ynof yn yr etholiad hwn.”