Petai’n cael ei hail-ethol yn arweinydd ar Blaid Cymru, byddai Leanne Wood yn sefydlu grŵp ymbarél newydd i ddod â holl fudiadau sydd o blaid annibyniaeth at ei gilydd.

Mae’r AC dros y Rhondda, a gafodd ei hethol yn arweinydd ar y Blaid yn 2012, wedi cyhoeddi heddiw ei bod am greu “Confensiwn Annibyniaeth i Gymru.”

Byddai’r grŵp yn gyfrifol am ddwyn syniadau ynghyd a gwneud gwaith ymchwil ar ddyfodol Cymru annibynnol.

“Fy mwriad yw ceisio creu cawcws o fudiadau a grwpiau cymdeithas sifil sydd o blaid annibyniaeth ym mhob cwr o’r wlad,” meddai Leanne Wood, sy’n ymladd i gadw ei lle fel arweinydd.

“Byddai ‘Confensiwn Annibyniaeth i Gymru’ yn dwyn gwahanol fuddiannau a safbwyntiau ynghyd gan danio brwdfrydedd ymhlith holl gymdeithas sifil y wlad dros sefydlu ymgyrch dros annibyniaeth sydd yn wleidyddol eang ei seiliau.

“Ni fyddai ymgyrch o’r fath yn eiddo i Blaid Cymru, ond byddai’n cefnogi gweithio gyda’r Blaid.”

“Dim siop siarad arall”

“Dim siop siarad arall” fydd y cawcws, yn ôl Leanne Wood, ond rhwydwaith fydd yn bwrw ymlaen “gyda’r ymchwil sydd ei hangen er mwyn cyflwyno dadl fanwl ar sut y byddai annibyniaeth i Gymru yn gweithio yn ymarferol.”

“Bydd yn cynnwys pobl o nifer o wahanol sefydliadau a fydd yn dod â’u diddordebau cyffredin at y bwrdd ac mi fydd yn cynnwys grwpiau dros annibyniaeth sydd eisoes yn bodoli ynghyd ag eraill o fewn mudiad cenedlaethol Cymru.

“Y gobaith yw gweld y cawcws newydd yn datblygu i fod yn ymgyrch a fyddai â mwy o rym ac adnoddau cyfun nag a fyddai gan unrhyw sefydliad unigol ar ei ben ei hun.”

“Dim nawr yw’r amser”

Mae Leanne Wood yn mynnu bod annibyniaeth wedi bod yn flaenoriaeth i’r Blaid ers dechrau ei chyfnod ac mae hi “oedd arweinydd cyntaf Plaid Cymru i osod annibyniaeth ar frig yr agenda” ac ers hynny, “mae’r awch am annibyniaeth i Gymru wedi tyfu drwy’r blaid a thrwy’r wlad.”

Ond heddiw, mae’n rhybuddio bod angen ennill etholiadau ac ennill ymddiriedaeth pobol cyn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar sicrhau hunanlywodraeth.

“Â’m llaw ar fy nghalon, ni allaf ddatgan yn ddidwyll, ar hyn o bryd, fy mod i eisiau i’n plaid ganolbwyntio ei holl ymdrechion ac adnoddau ar ymgyrchu dros annibyniaeth. Y strategaeth orau ar gyfer sicrhau annibyniaeth yw ei drin fel ymdrech ddwybig.

“Roedd Gwynfor Evans, yr AS cyntaf erioed dros Blaid Cymru, yn credu bod rhaid ennill ymddiriedaeth pobl cyn gallu tanio eu ffydd yn y syniad o annibyniaeth.

“Mae modd adeiladu ymddiriedaeth drwy ffurfio llywodraeth Plaid Cymru ar blatfform fydd yn mynd i’r afael â’r materion bob dydd sy’n effeithio ar bobl yn eu bywydau pob dydd.”

Stori: Mared Ifan