Mae wedi dod i’r amlwg bod teulu o Gymru wedi mynd yn sâl ar ôl aros mewn gwesty yn yr Aifft lle bu farw cwpwl o Loegr ynghynt y mis yma.

Roedd hynny wedi digwydd ddwy flynedd yn ôl ac roedden nhw wedi llwyddo i siwio cwmni taith Thomas Cook am eu profiad yn y gwesty, y Steigenberger Aqua Magic Hotel.

Roedd y teulu o bedwar wedi aros yno ym mis Ebrill 2016 ar wyliau pecyn Thomas Cook, ac wedi mynd â’r cwmni i gyfraith ar ôl mynd yn sâl yno.

Fe siwion nhw Thomas Cook am fethu â sicrhau bod bwyd yn iach ac na fyddai bwyd yn cael ei ail-gyflwyno neu ei ail-ddefnyddio.

‘Sâl am ddeufis’

Roedd y teulu’n honni eu bod yn sâl am tua deufis ar ôl y gwyliau ac, ar ôl i Thomas Cook wrthod derbyn cyfrifoldeb, fe aeth y teulu â nhw i’r llys a chael £26,000 mewn costau a iawndal yn Llys Sirol Casnewydd.

Dyw enwau’r teulu o Gymru ddim wedi eu cyhoeddi.

Yn ôl aelod o’r cwmni cyfreithwyr oedd yn gweithredu tros y teulu o dde Cymru, fe ddylai’r profiad fod wedi bod yn rhybudd i Thomas Cook.

Roedden nhw wedi codi cwestiynau am ddulliau’r gwesty o gadw cofnodion am lanhau a thymheredd bwyd.

Y cwpwl a fu farw

Roedd John and Susan Cooper, o Burnley, yn aros yn y Steigenberger Aqua Magic Hotel, Hurghada, pan wnaethon nhw farw ar Awst 21 eleni.

Bu farw John Cooper, 69, yn ei ystafell, a bu farw Susan Cooper, 63, gweithiwr i Thomas Cook, ar ôl cael ei chludo i’r ysbyty.

Yn ôl eu merch, Kelly Ormerod, roedd yna “rhywbeth amheus” am eu marwolaethau, a dywedodd bod ei rhieni yn “holliach” cyn y noson yr aethon nhw’n sâl.

  • Mae Thomas Cook yn dweud eu bod yn archwilio lletyau’n gyson a bod y Steinberger Aqua Magic wedi ei archwilio ym mis Gorffennaf eleni.