Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £820,500 gan y Loteri Genedlaethol er mwyn helpu eu gwaith gyda phobol ifanc Cymru.

Mae’r swm wedi’i roi ar gyfer y prosiect ‘Dwylo ar Dreftadaeth’, sydd â’r nod o newid y ffordd y mae pobol ifanc yn gweld ac yn ymwneud ag Amgueddfa Cymru.

Mae’r nawdd wedi’i rannu trwy raglen ariannu newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol, o’r enw ‘Tynnu’r Llwch’.

Prosiectau i bobol ifanc

Yn ôl Amgueddfa Cymru, maen nhw eisoes wedi cynnal nifer o brosiectau peilot sy’n cynnwys pobol ifanc fel rhan o gyfnod datblygu Tynnu’r Llwch.

Mae’r rheiny’n cynnwys digwyddiad ar ôl cau gyda myfyrwyr dawns o Brifysgol Aberystwyth a’r prosiect amgylcheddol ‘Na i Fôr o Blastig’, a fu’n codi ymwybyddiaeth am effaith plastig ar fyd natur.

Mae gan Amgueddfa Cymru Fforwm Ieuenctid eisoes hefyd, sy’n annog pobol ifanc rhwng 14 a 25 oed i ymwneud mwy ag amgueddfeydd a threftadaeth.