Mae Llywodraeth Cymru yn “puteinio’i” thir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl ysgrifennydd cymdeithas heddwch.

Y cam diweddara’, meddai, yw cyhoeddiad y Llywodraeth bod awyren ymladd lechwraidd wedi gwneud ei hediad arfog cynta’ – fe fydd gwaith cynnal a chadw ar yr F-35 Lightning yn cael ei wneud yn Sealand yn Sir y Fflint.

Yn ôl Awel Irene o Gymdeithas y Cymod mae safleoedd Cymreig y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sealand ac Aberporth ger Aberteifi yn “anfoesol” – yn Aberporth y mae profion yn cael eu cynnal ar awyrennau milwrol dibeilot, neu drôns.

Ac mae’n dweud y bydd Cymdeithas y Cymod yn ystyried ffyrdd o ymgyrchu yn erbyn datblygiadau o’r fath.

‘Hybu rhyfeloedd’

“Rydan ni’n bryderus iawn am y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Prydain i hybu Cymru fel rhyw fan i hybu rhyfeloedd yn y byd,” meddai Awel Irene wrth golwg360. “Achos dyna beth ydy hyn.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi’r tir i Lywodraeth Prydain, ac yn pwshio hynny, gan eu bod yn teimlo mai dyma’r unig fath o waith yr ydan ni’n medru’i gael.

“Mi ddylen ni fod yn cynhyrchu’r pethau sy’n bwysig bob dydd i ni.”

Awyrennau

Yn y gwaith yn Sealand y cyhoeddodd y gweinidog amddiffyn, Stuart Andrew, bod yr ‘F-35 Lightning’ wedi cwblhau ei hediad prawf cynta’ gyda thaflegrau.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i droi’r safle yn Sir y Fflint yn “ganolbwynt rhyngwladol” ar gyfer trwsio’r F-35.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.