Mae Brexit wedi arwain at gynnydd mewn ffermio ieir yng Nghymru, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Mae Gerallt Davies yn gweithio i asiantaeth Roger Parry ym Mhowys ac yn arbenigo mewn ceisiadau i godi siediau ieir.

Maen nhw ar hyn o bryd yn delio gyda rhes hir o geisiadau am adeiladu siediau ieir ledled canolbarth a gorllewin Cymru.

Dywedodd wrth golwg360 fod Brexit yn golygu bod mwy o ffermwyr yn symud oddi wrth ffermio defaid a gwartheg tuag at ieir am fod y farchnad cig oen a chig eidion wedi dirywio – ac yn debygol o ddirywio eto ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Sicrhau’r dyfodol’

“Mae Brexit a’r sectorau cig oen a chig eidion yn golygu bod ffermwyr yn edrych i arallgyfeirio,” meddai.

“Mae codi siediau ieir i gynnal ieir ar gyfer dodwy wyau yn fwriad gan lot o ffermwyr Cymreig erbyn hyn.

“Mae’n sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio yng Nghymru.”

Y rhwystrau

Er hynny mae rhai anawsterau, meddai Gerallt Davies, gan gynnwys rheoliadau newydd am lefelau ammonia ar dir.

Dim ond 1% o amonia yw’r trothwy bellach, sy’n golygu ei bod yn fwy anodd i ffermwyr sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer siediau ieir mewn ardaloedd sydd wedi’u gwarchod neu lle mae nifer sylweddol o siediau ieir eisoes.

Her arall, meddai, yw sicrhau bod yna alw am nifer yr wyau sy’n cael eu cynhyrchu.