Mae grŵp arbenigol wedi cael ei sefydlu gan Heddlu’r Gogledd i ystyried cyfres o ymosodiadau ar swyddogion dros y penwythnos.

Roedd yna saith ymosodiad ar blismyn y llu dros benwythnos Gŵyl y Banc, a bellach mae pedwar o bobol wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â phump ohonyn nhw.

Hefyd mae dau wedi’u harestio yn Wrecsam, ac mae gwaith ar droed i ddal yr unigolion sydd dan amheuaeth o fod ynghlwm â’r ymosodiadau eraill.

Digwyddodd yr ymosodiadau yng Nghaernarfon, Bangor, Y Bala, Wrecsam a Sir y Fflint; ac mae’n debyg bod un swyddog wedi cael niwed drwg i’w lygad.

‘Gadael ôl corfforol a meddyliol’

Yn ôl Prif Gwnstabl Dros Dro’r llu, Gareth Pritchard, roedd digwyddiadau’r penwythnos yn “hollol annerbyniol” ac mae’r achosion yn “peri pryder mawr”.

“Mae ein swyddogion allan yno yn gwneud swydd sydd â galw mawr arni, gan weithio’n galed i warchod y mwya’ bregus a diogelu pobl, ond ddylen ni ddim ystyried unrhyw ymosodiad fel ‘rhan o’r swydd’,” meddai.

“Mae ein swyddogion yn derbyn hyfforddiant ac offer da ac rydan ni’n ceisio sicrhau bod trefniadau lles wrth law pan fyddan nhw’n diodde’ ymosodiad. Mae’r ymosodiadau hyn yn gadael eu hôl yn gorfforol ac yn feddyliol ar y swyddogion a’u teuluoedd mewn rhai achosion.”