Fe fydd teuluoedd yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain yn talu mwy na £7 y mis yn fwy am fwyd yn ystod y cyfnod nesa’ – oherwydd y tywydd eithafol eleni.

Dyna gasgliad gwaith ymchwil gan gorff arbenigol sy’n dweud bod prisiau bwyd mewn siopau wedi codi o 1.9% ym mis Awst.

Mae hynny’n golygu bod cyfanswm prisiau nwyddau mewn siopau wedi codi’n gyffredinol am y tro cynta’ ers pum mlynedd.

A rhybudd Canolfan Ymchwil Economeg a Busnes yw y bydd prisiau bwyd yn parhau 5% yn uwch yn ystod gweddill y flwyddyn.

Effaith tywydd eithafol

Y rheswm, meddai’r Ganolfan, yw’r tywydd – y cyfnod hir o rew ynghynt ac wedyn yr haf crasboeth, a hynny’n arwain at lai o dyfiant a phrinder porfa.

O ganlyniad, roedd prisiau rhai llysiau wedi codi’n sylweddol rhwng mis Mawrth a Gorffennaf eleni:

Moron – 80%

Letys – 61%

Nionod/winwns – 41%

Gwenith bara – 20%

Effaith tros gyfnod

Yn ôl yr adroddiad, roedd lefelau cynnyrch y diwydiant llaeth wedi gostwng bob wythnos am 11 wythnos oherwydd diffyg tyfiant a phorfa.

Roedd hynny’n golygu bod pris menyn wedi codi 24% ers mis Mawrth.

Fe fydd pris peth gwin yn codi oherwydd effaith cesair neu genllysg ar winllannoedd Ffrainc ond fe ddylai pris cig coch ostwng ychydig wrth i ffermwyr werthu’n gynnar er mwyn ysgafnhau’r pwysau ar borfa.