Fe fydd £17m yn ychwanegol o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi i helpu pobol ifanc y de-ddwyrain i wella eu cyfleoedd am yrfa dda.

Mae’r swm hwn yn ychwanegu at yr £19m o gyllid sydd eisoes wedi’i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y cynllun ‘Ysbrydoli i Gyflawni’, sydd, medden nhw, wedi helpu mwy na 4,000 o bobol ifanc hyd yn hyn.

Y nod yw ymestyn y gwaith fel y byddai’n cynnig cymorth i 15,000 o bobol ifanc yn ystod y pedair blynedd nesa’.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid yn y Cynulliad, Mark Drakeford, bydd yr arian yn helpu pobol ifanc i “oresgyn unrhyw rwystrau rhag addysg” ac yn rhoi “cymorth penodol” iddyn nhw gael swyddi.

Rhannu’r arian

Fe fydd ‘Ysbrydoli i Gyflawni’ o dan arweiniad cynghorau Blaenau Gwent a Chasnewydd yn derbyn £15.9m o’r cyllid ychwanegol.

Fe fydd hyn yn eu helpu i weithio gydag ysgolion a cholegau i ddarparu cefnogaeth i bobol ifanc rhwng 11 a 19 oed sydd mewn perygl o droi eu cefnau ar addysg a hyfforddiant.

Fe fydd ‘Ysbrydoli i Gyflawni’ Cyngor Casnewydd hefyd yn derbyn £1.4m er mwyn darparu gwasanaeth mentora unigol a chymorth gyda sgiliau sylfaenol a phersonol a llythrennedd digidol i bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed.

“Dyfodol mwy disglair a ffyniannus”

“Mae’n rhaid i ni helpu ein pobol ifanc i gael dyfodol mwy disglair a ffyniannus,” meddai Mark Drakeford.

“Fe fydd y cyllid ychwanegol hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu pobol ifanc i oresgyn unrhyw rwystrau rhag addysg, ac yn rhoi’r cymorth penodol sydd ei angen arnynt i gael swyddi.

“Bydd yn adeiladu ar lwyddiannau cyllid yr Undeb Ewropeaidd hyd yma, sydd eisoes wedi helpu bron i 40,000  o bobol ifanc ar draws Cymru i wella eu siawns o gael swyddi.”