Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cychwyn ar archwilio Gwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth, wedi iddo gael ei ddifrodi gan dân dros fis yn ôl.

Roedd yr heddlu wedi methu â chael mynediad i’r safle cyn hyn oherwydd cyflwr bregus yr adeilad yn dilyn y tân ar Orffennaf 25.

Erbyn hyn, mae gwaith clirio gan y gwasanaethau brys wedi galluogi swyddogion i ddechrau ymchwilio’r safle, ac fe fydd yr ymchwiliad ei hun yn cynnwys timau fforensig a’r uned gŵn.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad barhau am gyfnod o wythnosau, ond does dim disgwyl iddo amharu ymhellach ar yr adeiladau o’i gwmpas.

Mae dyn 30 oed o ardal Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth wedi’i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Mae Damian Harris yn parhau yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener diwetha’ (Awst 24), ac mae disgwyl iddo ymddangos unwaith eto fis nesa’.