Mae datblygwr gwefan i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg yn apelio am help rhagor o’i gyd-Gymry i sicrhau gwell darpariaeth Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Yn ôl Rhoslyn Prys, arbenigwr technegol a sefydlydd Meddal.com, mae angen i ni achub y blaen a gwneud pethau drosom ein hunain, yn hytrach nac aros i gwmnïau mawrion weithredu.

Yn benodol, dywed fod angen llawer iawn mwy o wirfoddolwyr i gyfrannu at ddatblygu technoleg adnabod llais sy’n gallu ymateb i orchmynion Cymraeg.

Mae’n cydweithio gyda chwmni Mozilla ar brosiect o’r enw Common Voice, sydd â’r nod o gasglu lleisiau gyda’r gobaith o fwydo’r wybodaeth i brosiect arall – Deep Speech.

Mae’r Gymraeg yn un o dair iaith newydd a gafodd eu hychwanegu i brosiect Common Voice ym mis Mehefin – ac mae ymdrech ar droed i gasglu recordiadau.

Yn ôl Rhoslyn Prys, mae 60 o bobol wedi cofrestru â’r fersiwn Cymraeg ac mae gwerth 3 awr a 26 munud o recordiadau llais wedi’u cyfrannu a’u dilysu.

Ond, mae’r unigolion sydd ynghlwm â’r prosiect yn anelu at gael o leiaf 100 awr o ddeunydd, ac mae angen i “lot fawr yn fwy” o bobol gymryd rhan, meddai’r arbenigwr.

“Rydym ni angen cael llawer iawn mwy o gyfranwyr, ac rydym ni angen cael llawer iawn mwy o oriau,” meddai rwth Golwg360. “Oherwydd, rwyt ti angen cael lot fawr iawn o ddata er mwyn gwneud i’r dechnoleg weithio yn effeithiol.”

“… Rydym yn chwilio am bawb o bob tafodiaith, o bob ardal yng Nghymru, ac o Batagonia hefyd – Pobol â thafodieithoedd unigryw. Mae hynny’n oll bwysig. Mae’n bwysig fod pawb yn medru cyfrannu.”

Meddalwedd

Meddalwedd yw Deep Speech a fyddai, yn debyg i Alexa a Siri, medru ymateb i leferydd.

Yn ôl Rhoslyn Prys mae’r teclynnau adnabod llais yma yn “ddatblygiadau pwysig” ond cynnyrch masnachol yw’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd, meddai, gan gwmnïau “anferthol o gyfoethog”.

Dywed fod “amryw o gwmnïau”, gan gynnwys Microsoft a Mozilla, sy’n barod i ddarparu deunydd Cymraeg, ond bod eraill sy’n “llai parod” – Apple a Google yn eu plith.

Mae’n pryderu bod y maes yn cael ei “gyfyngu” oherwydd dydy’r cwmnïau yma ddim yn barod i rannu’r dechnoleg sydd ganddyn nhw.

Ond ar ôl treulio tua 20 blynedd yn cydweithio â Mozilla, mae’n optimistaidd am Common Voice a Deep Speech am eu bod yn agored i’r cyhoedd.

“O ystyried bod modd i bobol gyffredin gyfrannu at y ddarpariaeth yma bellach, mae angen i Gymry Cymraeg fod yn flaengar iawn,” meddai.

“Mae angen cymryd y cyfle pan mae’r cyfleoedd yn ymddangos yn y lle cynta’, ac nid aros pum mlynedd i bethau.

“Dw i’n meddwl bod angen i ni, fel Cymry Cymraeg, gyfrannu er mwyn ni ein hunain. Ac mae hynna’n cynnwys, nid yn unig Common Voice, ond pethau fel Wicipedia a’r cynllun mapio Cymru yn Gymraeg … Mae angen i ni wneud y pethau yma dros ein hunain.”