Bydd pedair ardal yng Nghymru yn elwa o brosiect £8.6 miliwn i amddiffyn ‘coedwigoedd glaw Celtaidd’.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, a’i nod yw gwarchod y coedwigoedd yma rhag rhywogaethau estron.

Eryri, Cwm Einion, Cwm Doethie a Dyffryn Elan yw’r ardaloedd fydd yn elwa ohono, a bydd yn cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Awst 2018 a Gorffennaf 2025, ac mi fydd sawl partner ynghlwm â’r fenter gan gynnwys: RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Amcanion

“Nod y prosiect yw gwella cyflwr coedwigoedd allweddol yng Nghymru yn sylweddol,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Bydd yn ein helpu i gwrdd â’n hymrwymiadau Ewropeaidd a rhyngwladol ar gyfer bioamrywiaeth a chyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd pwysig i gymunedau lleol.”

Coedwigoedd

Coedwigoedd gwlyb yw Coedwigoedd glaw Celtaidd, ac mae modd dod o hyd iddyn nhw yn Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Mae’r coedwigoedd yma yn gartref i sawl rhywogaeth gynhenid – gan gynnwys mwsogl a llysiau’r afu – ond bellach mae rhywogaethau estron gan gynnwys y ‘Rhododendron ponticum’ yn eu peryglu.